Pam Siop.io - Trwy Lygaid Mam
Mae Siop.io yn blatfform e-fasnach a grëwyd gan Kodergarten mewn ymateb i'r heriau yr oedd siopau lleol yn eu hwynebu ar ddechrau cyfnod clo COVID19 ac angen gwerthu i'w cwsmeriaid ar-lein.
Cyhoeddedig 21/01/2021 Ysgrifennwyd gan Claire, mam, a datblygwr Kodergarten arweiniol ar y prosiect

Roedd rhai siopau, a sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl, heb erioed gael yr angen, y diddordeb na'r profiad o fynd ar-lein - efallai heblaw am reoli rhywfaint o ryngweithio cwsmeriaid ar Facebook. Roedd arnynt angen cymorth nawr.
Mae'r stori ganlynol yn adrodd angerdd aelod o dîm Kodergarten dros ddatblygiad yr offeryn hwn a pham yr oedd yn ddefnyddiol ar gyfer datrys yr heriau a wynebwyd gan fusnesau ac iddi hi'n bersonol fel mam, yn ceisio siopa yn ystod y cyfnod clo.
Y cyd-destun dynol lle dechreuon ni weithio ar Siop.io
Ym mis Mawrth 2020, fe wnaeth y cyfnod clo ein taro; Rydw i'n fam sy'n gweithio'n llawn amser ac roedd yn her go iawn, i nifer ohonom, i jyglo gofal plant ychwanegol a chymorth addysg gartref ar gyfer tri phlentyn ifanc ochr yn ochr â'n gwaith llawn amser arferol a rhedeg y cartref. Dydi fy ngŵr a finnau ddim cwyno am ddim byd achos ryda ni'n meddwl ein bod yn lwcus bod gynnym ni'r gallu i weithio adref a chadw'r cartref yn saff, ond does dim gwadu ei fod yn teimlo fel jygl o ddifri.
Roeddwn i'n dechrau cwmni newydd ochr yn ochr â fy nghydweithwyr ac roedd fy mhlant yn aml yn mynychu'r cyfarfodydd ar-lein yn y cefndir yn tynnu wynebau ac, wrth i mi drio fy ngorau i leihau'r sŵn yn y cefndir, roedd bawb yn gweiddi 'ti ar mute' pan oeddwn i'n dechrau siarad. . .
Felly pam gwneud hyn pan allwn i fod wedi penderfynu peidio â gweithio o gwbl!? Wel am lond llaw o resymau ein bod ni fel cwmni yn teimlo'n angerddol am a wirioneddol yn credu yn:
Yr economi leol
Er efallai ein bod ni a llawer o bobl eraill yn teimlo bod cefnogi busnesau lleol yn bwysig, y ffaith amdani ydi, efallai nad oes gan y mwyafrif o gwmnïau bwyd bach a chanolig atebion e-fasnach oherwydd y gost a'r gwerth cyfyngedig i'r hyn y maen nhw'n ei ystyried yn sylfaen cwsmeriaid lleol.
Y Cyfnod Clo
Wrth i siopau weld nifer yr ymwelwyr yn mynd yn llai ag yn llai neu'n gorfod cau hefo'r cyfnodau clo, roedd Siop.io yn dal i ganiatáu i archebion gael eu gosod, eu prosesu a'u danfon - a helpu i gadw'r busnesau manwerthwyr bwyd annibynnol lleol i fynd.
Cysgodi yn y cyfnod clo
Mae Siop.io yn golygu bod cwsmeriaid yn gallu archebu a thalu ar-lein, ac wedyn maen nhw'n helpu drwy drefnu i'r nwyddau gael eu danfon neu eu casglu yn ddiogel (gyrru heibio a'r nwyddau yn cael eu rhoi syth yng nghist eich car!)
Dwyieithrwydd
Mae Kodergarten wedi'i leoli yng Ngogledd Orllewin Cymru, rydyn ni'n gwmni dwyieithog, felly wrth gwrs fe allwch chi ddefnyddio Siop.io yn Gymraeg neu yn Saesneg - fel cwsmer yn pori'r wefan, ac fel manwerthwr sy'n rheoli ei siop.
Cyfle
Fe welson ni fwlch yn y farchnad a allai ddefnyddio ein blynyddoedd o gydweithio mewn e-fasnach i fynd i'r afael hefo'r broblem hon.
Siopa'n Lleol - ond heb i mi fy hun orfod rhedeg o le i le!
O safbwynt personol, gallwn weld fy hun yn gwsmer parhaus ar y platfform hwn.
Mae'n rhaid i mi fod yn drefnus a gwneud cynllun prydau wythnosol a'r rhestr siopa berthnasol i hynny; ond rydw i'n euog o siopa mewn archfarchnadoedd ar-lein dim ond oherwydd fy mod i'n gallu cael popeth sydd ei angen arnaf ar-lein, a'i gael wedi'i ddanfon.
Er hynny, mae yna ryw lais bach yn fy mhen erioed sy'n dweud - faswn i'n licio siopa'n fwy lleol, prynu cynnyrch wedi'i dyfu / ei fagu'n lleol o ansawdd da, creu llai o filltiroedd bwyd a gwario fy mhres yn yr economi leol.
Er hynny, fel llawer o rai eraill, rydw i mor brysur rhwng gweithio / gweithgareddau ar ôl ysgol (pan maen nhw'n cael eu cynnal!) / gofal plant a gofalu am ein cartref, does gen i ddim amser i yrru o gwmpas gwahanol leoedd / dwi ddim eisiau defnyddio nifer o wahanol wefannau / ffonio nifer o fusnesau i er mwyn cael yr hyn sydd ar fy rhestr siopa wythnosol.
Rydw i angen i siopa'n lleol ffitio i mewn i fy nhrefn o gynllunio ac archebu bwyd mor hawdd â fy archfarchnad ar-lein; cael un tab arall ar agor ochr yn ochr â fy siop archfarchnad, lle gallaf bori trwy'r hyn sydd ar gael yn lleol, cymharu cynhyrchion a phrisiau, adeiladu basged ac yn olaf talu a chael y nwyddau wedi eu danfon unwaith y bydda i wedi gwneud fy mhenderfyniad terfynol. Dyma'r union beth mae Siop.io yn ei gynnig i mi hyd yn oed yn ystod cyfnod treial y gwasanaeth.
Beth sydd nesaf gyda Siop.io? Mae'n newid fy arferion
Rydym nawr mewn cyfnod treial mewn partneriaeth â Menter Môn, yn gweithio gyda llaw o gyflenwyr lleol ar draws Ynys Môn a Gwynedd. Nod y treial yw casglu adborth gan y busnesau a'r cwsmeriaid i ffurfio darlun cliriach o'r hyn sydd ei angen arnynt, ond hyd yn oed nawr, wrth i fwy o fusnesau werthu ar Siop.io, gwelaf fy archeb archfarchnad ar-lein yn lleihau'n araf.
I mi, y dechrau fu disodli cig archfarchnad gyda'r hyn a gynigir gan Gigoedd y Llain yn lle hynny, cwrw o fragdy lleol Bragdy Lleu, a phryd bynnag rydym ar ein gwyliau yn Aberdaron, danteithion o Becws Islyn (piti na fyddant yn danfon i fy ardal i, fel arall byddwn yn sicr yn eu defnyddio'n wythnosol hefyd - er mae'n debyg yn well i fy ngwasgfa nad ydynt!).
A fydd fy archeb archfarchnad fyth yn cael ei disodli'n llwyr gan siopa gyda busnesau annibynnol? Wn i ddim, ond bydd yn ddiddorol gweld wrth i mi anelu at ddisodli cymaint â phosib gyda chyflenwyr lleol wrth i fwy o gynigion ymddangos ar y platfform. Mae maethu fy nheulu a fi fy hun gyda bwyd a diod lleol o ansawdd uchel yn deimlad gwych, wrth gefnogi busnesau lleol ar yr un pryd; perffaith!