<Stories/>

> Crefft sŵn - a cryndodau seismig anweledig

Dull y dyfodol o weld patrymau mewn traffig a nifer yr ymwelwyr

queuing at an event
people watching the main stage at the green man festival last year
Druids on the march at the national eisteddfod of Wales

Cyhoeddedig 12/01/2023

Allwch chi deimlo dirgryniadau un o ddigwyddiadau diwylliannol mwyaf Ewrop? Mae’n debygol eich BOD chi ar sawl lefel. Ond am y tro cyntaf, eleni, byddwch yn gallu ei fesur mewn tonnau seismig, diolch i bartneriaeth newydd rhwng Kodergarten ac academyddion sy'n gweithio ar brosiect synhwyrydd seismig cost isel, data agored.

Cryndodau a achosir gan symudiad o fewn y Ddaear yw tonnau seismig, yr ydym wedi’u cysylltu’n draddodiadol â digwyddiadau naturiol yn amrywio o ddaeargrynfeydd i ffrwydradau folcanig, tirlithriadau, eirlithriadau a hyd yn oed afonydd yn rhuthro.

Fodd bynnag, mae Kodergarten yn creu system we amser real a fydd yn galluogi delweddu tonnau seismig a achosir gan draffig, torfeydd, a dathliadau. Mae’n bwriadu defnyddio un o’r digwyddiadau diwylliannol mwyaf yn Ewrop, a gynhelir yma yn y DU, i brofi ei ddefnyddioldeb, cyn cyflwyno ei gymhwysiad i Lleoedd Clyfar y mae wedi bod yn gweithio arno yng Nghymru.

Mae technoleg sy'n gallu mesur tonnau seismig wedi bod ar gael ers peth amser, ond yn hanesyddol mae wedi bod yn ddrud iawn. Felly, mae ei leoliad wedi'i gyfyngu i raddau helaeth ledled y byd i leoliadau ymchwil arbenigol a sefydliadau academaidd.

Fodd bynnag, mae technoleg newydd wedi’i datblygu sy’n defnyddio amrywiaeth o synwyryddion gan gynnwys geoffonau, cyflymromedrau systemau microelectromecanyddol (SMEMau) a synwyryddion is-sain, sydd wedi’u cysylltu â dyfais Raspberry Pi – cyfrifiadur bwrdd sengl cost isel, a ddyluniwyd yn y DU ac a weithgynhyrchwyd yn rhannol yng Nghymru.

Mae'r gosodiad eisoes wedi'i gymhwyso ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau, er enghraifft: mewn ysgolion – ar gyfer mesur seismig; yng nghartref clwb pêl-droed Manchester City – Stadiwm Etihad – i gofnodi nifer y goliau a sgoriwyd; ac yng Ngwlad Belg - i fesur effaith COVID trwy ddefnyddio data i ychwanegu at weithgaredd dynol (neu ddiffyg gweithgaredd dynol) a meintioli dirywiad y bobl sy'n mynd allan.

Dywedodd Paul Sandham, Cyd-sylfaenydd Kodergarten : “Am ein bod ni yn gwmni sydd wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru, does dim ond yn rhaid i chi edrych ar y mynyddoedd allan o’ch ffenest i feddwl o ddifri bod gan y prosiect hwn gartref naturiol yng Nghymru. Mae gan y defnydd gwreiddiol o’r dechnoleg seismig werth go iawn yn fan hyn, mae Gogledd Orllewin Cymru yn ddiddorol yn seismig ac yn ddaearegol, am ei fod yn gartref i un o ddaeargrynfeydd mwyaf arwyddocaol y DU yn yr 1980au a’r Fenai ei hun wedi’i lleoli ar ffawtlin.

“Ond, ryda ni hefyd yn gweld y dechnoleg hon fel ateb cost isel blaengar anymwthiol ar gyfer mesur pethau fel y math o gerbydau sy'n mynd heibio, maint y traffig, a nifer yr ymwelwyr"

“Bydd amrywiaeth o ddefnydd ar gyfer y ffordd newydd hon o gofnodi data. O roi gwybod i gynllunwyr trafnidiaeth lle mae traffig yn debygol o fod ar ei brysua’, yr un fath a’r peilot prawf yma, i ddeall effeithiau y mae digwyddiad diwylliannol mawr yn ei gael ar seilwaith trafnidiaeth ardal wledig.”

Mae'r system newydd hon yn llawer rhatach na defnyddio camerâu traffig i recordio traffig, sy’n gallu costio hyd at £20,000 yr un ac yn ogystal â nifer a chyfaint, mae hefyd yn casglu data personol megis rhifau cofrestru cerbydau. Be’ sy’n wych am y gosodiad newydd yma, sydd â phwrpas gwahanol, ydi, ‘does dim angen casglu unrhyw ddata personol felly mae'n llawer llai ymwthiol i'w gasglu.

Dywedodd Paul: “Bydd y system yn gallu dangos y gwahaniaeth mewn gweithgaredd ar leoliad y digwyddiad ei hun, o’r lefel sylfaenol, deud bod yna ryw ddefaid wedi crwydro ar draws y tir ym mis Ebrill, neu yn syml, bod ffermwr wedi croesi eu tir ar eu beic cwad efallai; drwodd i effaith cynyddol traffig a nifer yr ymwelwyr ar ba bynnag ddigwyddiad, neu efallai dathliadau 250,000 o bobl yn mynychu'r digwyddiad ei hun (yn cynnwys popeth o gystadlaethau i lwyfan roc!), ac yn olaf, cau'r digwyddiad a tynnu bob dim i lawr ac mynd yn ôl i'r tawelwch seismig unwaith bo’r pebyll wedi cael eu tynnu i lawr a defnydd y tir wedi dychwelyd yn ôl i ffermio.

“Byddwn yn defnyddio’r data newydd hwn, a data o synwyryddion eraill, i adeiladu darlun o bethau fel y traffig cynyddol ar ffyrdd gwledig a achoswyd gan y digwyddiad. Unwaith y byddwn wedi edrych ar un digwyddiad, rydym yn gallu trosglwyddo’r model yn hawdd i ddigwyddiadau mawr eraill yng Nghymru, er enghraifft Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd neu’r Green Man, ym Mhowys; ac ar gyfer cymwysiadau Lleoedd Clyfar eraill.”

Mae Kodergarten , yn gwmni meddalwedd, sy'n credu y dylai fod yn gwneud pethau da gyda thechnoleg i wella bywydau, technoleg heb gostio'r ddaear. Maen nhw’n gweithio'n bennaf gyda sefydliadau yn y sector gyhoeddus a'r trydydd sector ar brosiectau gan gynnwys dadansoddi lleoedd a thrafnidiaeth a datrys problemau; rhyngrwyd o bethau a thechnoleg synhwyryddol; platfformau digidol a dadansoddeg pwrpasol; creu adeiladau digidol a symudol i gefnogi systemau a phrosesau; ac atebion sy'n seiliedig ar gwmwl wedi'u pensaernïo'n dda.

Mae Kodergarten eisoes yn gweithio ar fwy na 30 o brosiectau Lleoedd Clyfar yng Nghymru a’r DU, gan gynnwys Gwynedd, Ynys Môn ac Ynys Enlli ac mae’n arbenigo mewn ymgysylltu cymunedau â data – a’u galluogi nhw i wneud penderfyniadau strategol, arbed costau a chreu ffyrdd gwell, mwy effeithiol o weithio a byw.