<Straeon/>

> Enlli - LLanw a thrai

Paradocs Ynysol Pen Llŷn – Enlli yn arloesi gyda thechnoleg flaengar i ategu bywyd ar yr ynys

enlli lighthouse
enlli abbey
enlli sensor

Cyhoeddedig 17/08/2022

gan Paul Sandham

>Ynysol

  • 1. Perthnasol i neu gyfystyr ag ynys.
  • 2. Byw neu wedi'i leoli ar ynys.
  • 3. Awgrymir bywyd ynysig ar ynys.

Defnyddiwyd y gair 'Ynysol' yn wreiddiol i ddisgrifio byw ar ynys, ffordd o fyw penodol i ynys. Dim ond yn ystod y 150 mlynedd diwethaf ac ar y cyd â diboblogi a mudo poblogaethau gwledig i’r dinasoedd y mae’r gair wedi dod i gael ei ddefnyddio ar ffurf ei ystyr presennol - meddwl cul ac amharod i dderbyn syniadau newydd - efallai o achos beth oedd canfyddiad y rhai a ymadawodd am yr hyn yr oeddynt wedi ei adael ar ôl? Safbwynt ymfudwr? Fel disgynnydd i ynyswyr a adawodd eu cartrefi yn ystod rhan olaf y 19eg ganrif i fynd i’r tir mawr, mae hyn yn atseinio â’r straeon a glywais gan fy neiniau a fy nheidiau wrth iddynt son o ble roedd eu rhieni a’u neiniau a'u teidiau nhw wedi ymfudo.

Fodd bynnag, mae Enlli, sy’n ynys wedi’i lleoli 1.9 milltir oddi ar arfordir Pen Llŷn yn sir Gymreig Gwynedd, er mor anghysbell ydi hi, wedi meithrin syniadau newydd trwy gydol hanes ac yn parhau i wneud hynny heddiw ac yn ein profiad ni, ar ôl gweithio ar gysylltu’r ynyswyr â Band Eang Cyflym Iawn a Rhyngrwyd o Bethau (RhoB) mae'r ynys ar flaen y gad gryn dipyn o’i chymharu â’r defnydd a wneir o dechnoleg ar y tir mawr.

Bellach, mae'r pentwr technoleg a grëwyd ar eu cyfer ar waith, a gobeithiwn y daw i fod yn rhan hanfodol a dibynadwy o wead yr ynys. Mae ganddo'r gallu i drawsnewid rhai rhannau bach, ond hanfodol o fywyd yr ynys, megis monitro lefelau dŵr mewn tanciau a ffynhonnau a chynhyrchiant ynni paneli solar, yn ogystal ag astudio bywyd gwyllt. Mae'n ddatrysiad cadarn, pŵer isel, cost isel, amlieithog ac aml-synhwyryddol sydd wedi'i ddefnyddio'n llwyddiannus yn y lle anghysbell hwn, nad oes ganddo fynediad dibynadwy at wasanaethau RhoB ‘LoRaWaN’ safonol.

Cliciwch yma, i weld yr astudiaeth achos lawn o be’ yr aethom ati i’w wneud.

Mae'n werth nodi, fod datgysylltu oddi wrth y Rhyngrwyd yn rhan o atyniad yr ynys i ymwelwyr, felly dim ond i'r ynyswyr eu hunain y mae hyn ar gael, er mwyn gwarchod y llonyddwch hwn.

Wrth i ni ddechrau cynllunio sut i gysylltu’r ynyswyr a chael caniatâd i ddefnyddio adeilad bach o fewn y goleudy, sef buddsoddiad technolegol mwyaf arwyddocaol yr ynys hyd yma, fel lleoliad i hwb yr ynys ar gyfer ein prosiect band eang a RhoB, diflannodd y paradocs o’r gair “ynysol” i ni. Dewiswyd y safle, sef sied gerrig solet, ddigon deniadol, wedi i ni gael trafodaethau gyda’r ynyswyr, - yn syml iawn, dyma’r lle gorau i ni allu gweld a gwneud cysylltiad microdon â rhan fechan o’r tir mawr.

Wrth i ni ddechrau cynllunio sut i gysylltu’r ynyswyr a chael caniatâd i ddefnyddio adeilad bach o fewn y goleudy, sef buddsoddiad technolegol mwyaf arwyddocaol yr ynys hyd yma, fel lleoliad i hwb yr ynys ar gyfer ein prosiect band eang a RhoB, diflannodd y paradocs o’r gair “ynysol” i ni. Dewiswyd y safle, sef sied gerrig solet, ddigon deniadol, wedi i ni gael trafodaethau gyda’r ynyswyr, - yn syml iawn, dyma’r lle gorau i ni allu gweld a gwneud cysylltiad microdon â rhan fechan o’r tir mawr.

Wrth i gam cyntaf y prosiect ddod i ben, o’r diwedd gallwn dreulio ennyd yn ymhyfrydu yng ngorffennol yr ynys, edrych ymlaen at sut y bydd y prosiect yn esblygu (ac efallai be’ fydd yn cael ei ysgrifennu nesaf yn y llyfrau hanes!) a dathlu'r rhai a sicrhaodd bod y gamp dechnolegol fodern hon yn dwyn ffrwyth.

>Llanw a thrai hanes yr ynys

Ym 1820, o achos bod nifer y llongau yn defnyddio Môr Iwerddon i symud nwyddau a phobl o Lerpwl, Dulyn, De Cymru, Bryste, Glasgow, porthladdoedd llechi Cymreig ffyniannus i leoedd ymhellach i ffwrdd, yr Iwerydd a'r byd yn cynyddu’n gyflym; Adeiladodd Trinity House y goleudy 30m o daldra (sy'n dal yn weithredol) ar Ynys Enlli i dywys llongau ar hyd ochr ddwyreiniol Môr Iwerddon. Taniwyd y golau cyntaf ar Noswyl Nadolig 1821, ychydig dros 200 mlynedd yn ôl.

Pan gafodd y goleudy ei adeiladu, ar ben deheuol agored yr ynys, roedd mwy na 60 o bobl yn byw arni, erbyn y 1880au roedd y boblogaeth wedi codi i dros 130, yna, erbyn 2019 poblogaeth barhaol o ddim ond 4 oedd ar yr ynys.

Mewn patrwm a ailadroddir ar draws cymaint o ynysoedd cyfannedd Prydain, mae tonnau o bobl wedi cael eu denu at oleuadau llachar y dinasoedd wrth i waith/buddsoddiad/addysg/gofal iechyd ddod yn anoddach os ydych yn byw mewn mannau pell anhygyrch. Caeodd yr ysgol a chynyddodd costau byw ar yr ynys tra bod incwm, i'r gwrthwyneb, wedi plymio.

Er gwaethaf yr ecsodus hwn, am y 50 mlynedd diwethaf mae Enlli – ynys yr 20,000 o seintiau – unwaith eto wedi dod yn lle ar gyfer pererindod, yn noddfa i’r byd modern, gyda’i chefn llydan yn amddiffyn ei hymwelwyr o’r tir mawr o ble y daethant. Mae Ymddiriedolaeth yr Ynys wedi chwarae rhan enfawr wrth atal y dirywiad, gan fynd ati i ail-bwrpasu ac adnewyddu adeiladau ar yr ynys i bobl ddod i aros yn ystod misoedd yr haf. Serch hynny, mae Enlli wedi parhau - mewn sawl ffordd - yn ferddwr - yn dal yn bwysig i'r rhai sy'n astudio adar mudol ac wrth gwrs y boblogaeth brin sydd ar ôl i ffermio a physgota ei dyfroedd, sy'n croesawu ymwelwyr.Am filoedd o flynyddoedd roedd Enlli yn fan lle’r oedd pethau’n digwydd, lle'r oedd pobl yn cyfarfod, lle’r oedd mynachod ac abadau, ynyswyr a masnachwyr yn ganolog i bethau, yn wir yn ynys gysylltiol rhwng Iwerddon/Cymru/Yr Alban/Lloegr a thu hwnt – ac roedd yn le lle’r oedd syniadau a gwybodaeth yn cael eu rhannu a'u lledaenu, canolbwynt mewn gwirionedd. Yn ystod yr Ymerodraeth Rufeinig, penderfynodd yr ysgolheigion Pliny: awdur, naturiaethwr, athronydd naturiol, llynges a rheolwr y fyddin; a Ptolemy: mathemategydd, seryddwr, astrolegydd, daearyddwr, a damcaniaethwr cerdd; i fynd ati i nodi Enlli ar eu mapiau. Yr oedd Ptolemy yn ei hadnabod fel Edri; Galwodd Pliny hi yn Andros.

Yn bendant nid oedd Enlli yn ferddwr. Mae rhai hefyd yn honni mai Afallon o chwedloniaeth Gymreig (Ynys Afallach / Afalau) ydi hi, yr ynys chwedlonol lle dygwyd y Brenin Arthur gan Myrddin a Thaliesin i wella ar wely aur, gyda thywysoges a naw o forwynion yn gofalu amdano.

Yr oedd ei lle ysbrydol ymhlith Ynysoedd Prydain mor ddwys a dofn, yn yr Oesoedd Canol, petai pererin yn teithio i Enlli deirgwaith, yr oedd hyn gyfystyr â phererindod i Jerwsalem. Mae’r eglwysi a’r hosteli niferus a oedd yn ddibynnol ar y llif cyson hwn o Gristnogion selog yn dal i sefyll ar hyd arfordir Gogledd Cymru, sy’n dyst i’w phwysigrwydd yn y byd Cristnogol.

Roedd adeiladu’r goleudy 200 mlynedd yn ôl yn arwyddocaol gan ei fod yn nodi adeg penodol mewn amser, eiliad hollbwysig pan ddaeth yn bwysicach cadw cychod i ffwrdd o’r ynys, er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y porthladdoedd mawr yn ddiogel gyda’u cargo gwerthfawr yn gyfan. Pan y danfonwyd a gosodwyd y lens gomplecs gyntaf ym 1821 (a gostiodd fwy na 50% o gyfanswm y gyllideb o £5,247) roedd hyn yn adlewyrchiad bod y fan hon yn pylu mewn byd diwydiannol a oedd yn newid yn gyflym.

>Symud ymlaen yn gyflym i heddiw

A dyma ni yn 2022. Yn eistedd yn ein hwb technoleg yng nghyd-adeiladau’r goleudy, wrthi’n sefydlu ac yn ailgysylltu'r ynys â lonydd trosglwyddo newydd y rhyngrwyd. Dyma ddulliau cyfathrebu sy'n newid daearyddiaeth ddynol a masnach yn sylweddol. Dyma ddod â thechnolegau newydd i mewn y gall ynyswyr yr 21ain ganrif fanteisio arnynt yn ystod llanw a thrai bodolaeth ddynol yn y lle arbennig hwn - y mae ei enw gyda llaw yn golygu “ynys yn y lli”.

Mae yna lawer mwy i'w wneud, mae gennym o leiaf bedwar synhwyrydd arall i'w gosod eleni. Mae angen cydweithio gyda'r ynyswyr a Chyngor Gwynedd/ Menter Môn i wella'r cyflenwad pŵer yn y goleudy ymhellach. Mae gennym fwy o raddnodi i'w gwblhau, mae gennym synhwyrydd panel solar i'w wella a synhwyrydd blwch nythu i'w roi at ei gilydd gyda'r tîm yn yr Arsyllfa Adar. Mae’r cam cychwynnol bellach yn weithredol ond dros yr ychydig flynyddoedd nesaf rydym yn gobeithio y byddwn wedi sefydlu seilwaith technegol cadarn a fydd yn chwarae rhan fach ond hanfodol wrth wella bywydau ynyswyr a fydd yn helpu i danategu adfywiad economaidd, diwylliannol a chymdeithasol Ynys Enlli i'w rôl hanesyddol.

>Diolch

Mae gweithio ar y prosiect hwn wedi bod yn fraint. ‘Dydw i ddim yn meddwl ein bod ni erioed wedi gweithio gyda chymaint o bobl ddiddorol a dawnus. Felly dyma ein diolchiadau, sydd wirioneddol yn dod o’r galon.

Mewn gwirionedd ni fyddai wedi bod yn bosibl troi syniad o’r hyn a allai fod yn bosibl yn rhywbeth sydd bellach ar waith, heb gymorth, amser, amynedd, brwdfrydedd a ffydd: y fferi/postmon/ y peiriannydd cynnal a chadw goleudy, adeiladwr cychod, distyllwr a breuddwydiwr am ddociau arnofiol ac Enlli wedi ei adfywio - Colin; ei gymdogion ar yr ynys, Y pysgotwr, ffarmwr a chynllunydd rhwydwaith cyflym llechwraidd - Gareth, Meriel a'i deulu; Steve, Connor ac Emma am yr holl amser y maent wedi ei ymroi i hyn yn yr Arsyllfa Adar; Emyr, Mari a Sian o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli; Peter o Lywodraeth Cymru a Dafydd o Fenter Môn am helpu i ddatrys y problemau mawr oedd y tu allan i’n parth ni; Rhian a Gwilym o Fferm Tan y Bryn; Sarn Bach am eu hamynedd a'u haelioni; Anwen o Gyngor Gwynedd am reoli cyllid y prosiect hwn; a Warren o Chorlton bell am ei fap prydferth. Ac yna wrth gwrs, y 'geeks': Sion y peiriannydd Openreach; Jason o Lanidloes a gafodd lawer iawn o e-byst i ddelio â nhw; Paul, brenin yr ystol a chitiau mowntio dur gwrthstaen pwrpasol; ein gosodwr o Gaernarfon; ac yn olaf ond nid lleiaf o gongl Kodergarten; Bryn, Tim, Rhys y gwneuthurwr sensoriaid o Ddyffryn Nantlle a Rich a lwyddodd i recordio’r cefndir sonig hardd hwn o ganeuon adar, morloi a swn y tir a’r dŵr ar un o’n hymweliadau. Mae’n wir werth gwrando ar hwn bydd yn rhoi blas bach i chi o’r ynys hudolus hon, ddoe a heddiw.