title : “Recriwtio” description: "" draft: false images: []

>beth yr ydym eisio gyflawni gyda chi...

Iawn, gadewch i ni ddechrau ar y dechrau a dweud hi fel ag y mae hi. Mae'r ffordd y mae'r rhan fwyaf o gwmnïau technoleg yn gwerthu ac yn dosbarthu eu cynhyrchion meddalwedd a thechnoleg yn y 2020au yn wirion bost, mae'n seiliedig ar gysyniad 50 oed o god perchnogol a modelau trwyddedu cymhleth yn aml iawn.Pan fyddwn ni'n dylunio a chreu ein meddalwedd ni, rydym yn defnyddio cynhyrchion a phrosiectau ffynhonnell agored, felly rydym yn gweithio ar y ddealltwriaeth y bydd y cynhyrchion eu hunain yn dod yn Ffynhonnell Agored.

Rydym wedi ymrwymo i’r rhagdybiaeth, os yw’ch cynnyrch yn dda a’ch cleient neu bartner yn fodlon, yna mae perchnogaeth barhaus 'ed' (eiddo deallusol) yn tynnu sylw oddi ar bethau eraill, mae'n ased anniriaethol ar fantolen y busnes sydd o dan glo. 'Dydy' ni erioed wedi gwerthu trwydded feddalwedd flynyddol ac mae hyn yn rhywbeth y credwn sy'n effeithio'n sylfaenol ar ein ffordd ni o weithio gyda'n gilydd fel grŵp: Kodergarten, ein cleientiaid, partneriaid a defnyddwyr.

Ar hyn o bryd, rydyn ni'n sefydliad heb swyddfa. Nid yw hyn yn rhywbeth yr oeddem wedi ei fwriadu na'i gynllunio, ac nid yw'n rhyw egwyddor ddofn 'chwaith, mae'n deillio o sut a phryd y gwnaethom ddechrau gweithio gyda'n gilydd fel Kodergarten ac am nad ydym eto wedi dod o hyd i le i gydweithio sy'n bodloni ein gofynion. Felly er ein bod yn parhau i chwilio am le sefydlog i ymgartrefu ynddo (basecamp), rydym yn gweithio o bell, yn cyfarfod ar-lein bron bob dydd er mwyn rhedeg drwy lle yr yda' ni i gyd arni ar ein gwahanol brosiectau, ac rydyn ni'n cyfarfod i gynllunio ac adolygu sbrintiau. Wrth gwrs 'rydyn ni'n cyfarfod yn y byd go iawn hefyd, - mae hyn yn tueddu i fod ar gyfer prosiectau penodol a dim ond aelodau'r tîm sy'n gweithio ar y prosiect hwnnw sy'n cyfarfod bryd hynny.

Rydym yn defnyddio GitHub ar gyfer cod, Jira i reoli ein gwaith, a Mattermost ar gyfer sianelau cyfathrebu. Mae gennym Playbooks hefyd ac mae ein dogfennaeth yn tyfu'n gyflym. Mewn gwirionedd mae hi'n bosib i bopeth rydyn ni'n ei wneud a sut rydyn ni'n gweithio gael ei wneud yn well, mae lle rydyn ni rŵan yn well na phan ddechreuon ni, ac fe all, ac mae ein prosesau yn cael eu gwella. Ein gobaith ydi, y bydd aelodau newydd o'r tîm yn dod â'u profiad i mewn i newid y ffordd yr ydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu, cyflawni ac edrych ar ôl ein gwaith a'n cleientiaid, eu cwsmeriaid a defnyddwyr.

Mae yna arddwr anhygoel, dyn o’r enw Medwyn sy’n byw heb fod yn rhy bell oddi wrthym ni, mae o wedi ennill mwy na 10 medal Aur yn Sioe Flodau Chelsea, mae’n gwerthu ei hadau llysiau ar hyd a lled y DU drwy’r we ac yn y post. Pan fu un o'n tîm ni yn gweithio gydag o rai blynyddoedd yn ôl, mi wnaeth sylweddoli eu bod nhw'n garddio ac fe ddaeth â hadau iddyn nhw. Hon oedd y flwyddyn lwyddiannus gyntaf erioed wrth dyfu llysiau a gawso' nhw erioed! Rhannodd ei wybodaeth a'i frwdfrydedd yn rhydd hefyd. Yn llythrennol, mi wnaeth o dyfu ei fusnes o hadau dros gyfnod o amser heb fod angen geiriau crand nac ymgynghorwyr, na buddsoddwyr na gurus marchnata 'chwaith. Cafodd ei lwyddiant yn seiliedig ar ei wybodaeth, ei graffter, haelioni ei ysbryd, am ei fod yn teimlo'n angerddol am be' mae o'n ei wneud ac o achos ei enw da, ac fe fyddem ninnau hefyd wrth ein bodd yn gallu llwydo i wneud rhywbeth tebyg i hyn dros y blynyddoedd sydd i ddod.


<Ymuno â ni/>

>\Cyflog tryloyw

Dim "Cystadleuol / trafodadwy"

Mae pob un o'n postiadau swyddi yn cynnwys ystod cyflog.

>\Opsiynau Stoc

Bydd pawb yn cael opsiynau Stoc ar ôl eu hail flwyddyn.

>\Gweithio o Adref

Wel nid ydym wedi dod o hyd i weithle digon dda eto, ond hyd yn oed pan fyddwn yn gwneud hynny ni fyddwn yn llymach na “a allwch chi ddod i mewn ar <rhowch ddiwrnod o'r wythos yma plis>”

>\Oriau hyblyg

Dewiswch pryd rydych chi eisiau dechrau a phryd rydych chi'n gorffen pa bynnag sy'n cyd-fynd â'ch tîm.

>\Absenoldeb rhiant

Peidiwch â phoeni dros wyliau ysgol. Rydym yn cefnogi staff ag anghenion gofal plant 4-14 oed. Cymerwch amser ychwanegol i ffwrdd ar cyfnodau allweddol

>\Hyfforddiant

Angen tacluso'ch sgiliau Terraforming? Cael tystysgrif yn Google Cloud Developer? Cael eich ysbrydoli mewn cynhadledd? Mae angen y sgiliau arnom, mae angen yr amser arnoch. Ni fydd hyn yn broblem.

>\Iaith Gymraeg

Rydym yn gwmni sy'n gweithio drwy'r dydd yn y ddwy iaith, pa bynnag iaith sy'n cyd-fynd â'r digwyddiad sydd orau.

>\Cymryd egwyl gyfeillgar

Angen rhywfaint o Fitamin D - angen gweithio o Kuala Lumpur am ychydig fisoedd? Neu dringo'r Andes a mynd o'ch desg/gliniadur am 6 wythnos? Gadewch i ni siarad amdano

>\Wedi'i leoli yng Ngogledd Orllewin Cymru

Mae braidd yn sbesial yma a gallwn barhau i fynd i oleuadau llachar y dinasoedd mewn llai o amser nag y mae'n ei gymryd i fynd o Guildford i Islington.