<PTAM/>
>Datrysiad dadansoddeg amser real ar gyfer Awdurdod Lleol Cymru sy'n monitro gweithgaredd cludiant disgyblion
>Y penbleth
Roedd angen i awdurdod lleol yng Nghymru ddeall pa ddisgyblion oedd wedi rhannu bws ysgol er mwyn iddynt allu nodi’n gyflym ac yn ddibynadwy pwy allai fod wedi dod i gysylltiad â COVID-19 ar eu cerbydau.
Yn ogystal, roedd angen y gallu arnynt i adrodd yn ôl ar y defnydd o wasanaethau cludiant ysgol ar draws yr holl gerbydau a oedd yn cludo disgyblion.
Roedd angen system ar uned cludo disgyblion y cleient y gellid ei gweithredu'n gyflym ac yn gost-effeithiol i gwmpasu bron i 300 o wasanaethau a'r mwy na 5,750 o ddisgyblion oedd â hawl i gludiant ysgol am ddim.
Roedd datrysiadau presennol a oedd yn bodloni rhai o'u gofynion yn ddrud i'w prynu a'u gweithredu ac nid oeddent yn addas i'w defnyddio yn nifer o'r cerbydau a weithredir.
>Ein hymagwedd
Roedd angen integreiddio'r datrysiad gyda systemau data disgyblion presennol yr ALl a oedd yn cael eu rhedeg gan eu hadran addysg, ac yn amlwg yn cydymffurfio â GDPR.
Yn ogystal, roedd terfynau amser ar gyfer cyflawni’r hyn yn hynod o dynn, gan fod angen i'r cleient allu cynnal prawf beta ar nifer cyfyngedig o wasanaethau, bythefnos cyn diwedd tymor yr haf. Llai na 10 wythnos o ddechrau’r prosiect.
>Y datrysiad
Ein datrysiad oedd adeiladu ap a'i ddefnyddio ar ddyfeisiau Samsung i'r gyrwyr bysiau. Roedd yr ap yn golygu eu bod yn gallu sganio pasys disgyblion ac y gallai'r gyrwyr hefyd gofnodi eu sifftiau. Cynlluniwyd yr ap fel y gallai weithredu lle nad oedd cysylltiad data, ac roedd yn ddwyieithog.
Roedd y defnydd o'r dyfeisiau symudol yn gyfyngedig ac yn cael ei reoli gan yr hyn a elwir yn system rheoli dyfeisiau symudol headwind (sy’n cael ei adnabod fel MDM). Mae hyn yn golygu bod y ddyfais yn cael ei throi'n ffurf o 'zombie' na ellir ond ei ddefnyddio'n benodol ar gyfer y dasg. Roedd hyn yn sicrhau na allai'r dyfeisiau felly gael mynediad i'r rhyngrwyd, SMS, Apiau na storio unrhyw ddata personol, ei unig ddefnydd oedd ar gyfer yr ap y gwnaethom ei greu a'i uwchlwytho i'r dyfeisiau.
Mae'r cymhwysiad gwe digidol sy'n eistedd yng nghanol y system yn cefnogi rheolaeth disgyblion, sefydliadau (ysgolion), gweithredwyr cludiant a gwasanaethau cludiant.
TGall y system reoli'r broses o gynhyrchu cardiau newydd a rhai yn lle’r hen rai ac adnabod cardiau sydd wedi'u stopio a chardiau sydd wedi mynd ar goll. Mae'r dull adrodd yn cynnwys adroddiad datguddio, adroddiadau defnydd gwasanaeth a metrigau allweddol eraill ar dudalen hafan y rhaglen.
Yn ogystal, mae'r system bellach yn cefnogi mewngofnodi gweithredwyr fel y bydd gweithredwyr gwasanaeth yn gallu rheoli data criw eu hunain. Gellir hefyd cymhwyso 2 ffactor dilysu i rolau penodol o fewn y system megis ysgolion yn gallu gweld y gwasanaethau sy'n rhedeg i'w hysgol ac oddi yno.
>Effeithiau
Yn nhermau lleyg. Mae'n golygu y gall y sir nawr gynnig amserlen gyfunol a'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau, trwy fformat ffeil a gydnabyddir yn gyffredinol, y gellir ei rhannu â platfformau trydydd parti.
Mae hefyd yn cynnig dadansoddeg ynglŷn â: defnyddio gwasanaethau sy’n golygu y gall yr awdurdod trafnidiaeth ystyried ei amserlennu ac a ddylai uno gwasanaethau neu drefnu rhai ychwanegol, yn seiliedig ar y angen. Gan fod y data'n cael ei gyflwyno ar ffurf map-ganolog, mae'n hawdd i gynllunwyr llwybrau ystyried sut y gellid cysylltu neu newid llwybrau bysiau, er mwyn darparu gwasanaeth mwy effeithlol.
Mewn pedwar mis a gyda thîm o bedwar, fe wnaeth Kodergarten:
Gynllunio, adeiladu a defnyddio system beilot weithredol wedi'i chynnal gan AWS ac yna'r system fyw.
- Gweithredwyd system rheoli dyfeisiau Symudol Headwind a oedd wedi'i hintegreiddio â Samsung Knox
- Llwyfannwyd dyfeisiau a darparu 300 o unedau Samsung yn barod i'w defnyddio yn y maes
- Dyluniwyd system i gydymffurfio â GDPR, a phasio Asesiad Effaith Gwarchod Data yr ALl
- Darparwyd hyfforddiant ar y safle i weithredwyr
- Cyflawnwyd Ap Android dwyieithog wedi’i ddosbarthu’n breifat ar gyfer dyfeisiau criw
- Sicrhawyd bod dyfeisiau'n rhedeg yn y modd ciosg (wedi'u cloi) sy'n golygu na ellir defnyddio dyfais at unrhyw ddiben o gwbl heblaw'r Ap
- Gweithredwyd model data aml-Awdurdod Lleol/Ysgol annibynnol sy'n cefnogi mewngofnodi unigol ar gyfer aelodau criw gweithredu
- Crëwyd Tocyn Teithio Syml ar gyfer Timau Cludiant Ysgol gyda cherdyn adnabod QR a NFC
- Mynediad system yn cefnogi mynediad 2FA diogel i Ysgolion a Gweithredwyr yn ogystal â staff ALl
- Darparwyd Rheolaeth Gwasanaeth Ysgol helaeth, Llwybrau Teithio a swyddogaeth rheoli gweithredwyr a swyddogaeth adrodd
Mae gan y system, sy'n gweithredu'n llwyddiannus, botensial mawr o ran cynyddu ei graddfa. I bob pwrpas mae’n catapyltio rheolwyr a darparwyr gwasanaethau bysiau ysgol i’r un diriogaeth â’r diwydiant cwmnïau hedfan, trwy roi platform digidol iddo sy’n galluogi darparwyr i wybod pwy sy’n teithio ar eu cerbydau a ble a phryd.