Swyddi
Rydym yn chwilio am godiwr penigamp sy'n berson gwych
Rydyn ni'n brysur, rydyn ni'n bwriadu ychwanegu o leiaf un person arall (llawn amser neu ran-amser) at dîm Kodergarten.
Os ydych chi'n berson llawn cymhelliant a brwdfrydedd sy'n hoffi symlrwydd, sy'n gallu codio cymwysiadau ar y we, rydych chi'n ychydig yn chwilfrydig ynghylch devops efallai, yna fe hoffwn ni ddod i'ch nabod chi.
E-bostiwch niRydyn ni'n chwilio am rywun sydd
- Yn meddwl bod codio yn golygu datrys problemau, nid eu creu
- Eisiau gweithio ar brosiectau diddorol ar gyfer cleientiaid diddorol
- Yn deall mai weithiau'r hyn rydych chi'n ei adael allan ydi'r hyn sy'n gwneud eich cod yn well.
- Yn rhywun sy'n meddwl cyn mynd ati i ddylunio, cyn sgwennu profion, cyn iddynt godio
- Eisiau dysgu, gwthio eich hunan, a gwneud meddalwedd gwell
- Yn llawn angerdd am rywbeth y tu allan i'r gweithle
- Ddim yr un fath â ni.
Beth sy'n bwysig i ni
Dydy ni ddim yn poeni yn ormodol am eich addysg, dydy ni ddim yn poeni'n benodol am yr hyn rydych chi'n ysgrifennu cod ynddo - ond mae gynnym ni ddiddordeb mawr yn eich profiad a sut rydych chi'n hoffi gweithio a pham rydych chi eisiau gweithio hefo ni. I fod yn hollol onest, tyda ni ddim ar dân eisiau gweld eich CV chwaith, ond rydym am weld a deall eich gwaith diweddar. Profiad o'r byd go iawn sy'n bwysig.
Byddai'n well gennym pe baech chi yng Ngogledd Cymru, ond os mai chi yw'r un, a dydych chi ddim yn byw yng Ngogledd Cymru, beth am inni weld os allwn ni weithio rhywbeth allan.