<Enlli/>

>Rhyngrwyd annibynnol o bethau ar ynys

>Y penbleth

Mae Ynys Enlli yn lle sy’n llawn hanes, fe’i lleolir 3km o'r tir mawr ac ar gyrion gogleddol Bae Ceredigion. Oddi ar arfordir gogledd-orllewin Cymru, fe'i lleolir ar draws dyfroedd tymhestlog Swnt Enlli, sy'n gwahanu'r ynys oddi wrth y pentir, ac mae’n cael ei adnabod yn Gymraeg fel 'Pendraw'r byd'.

Mae'n anghysbell, mae'n ddelfrydol, ond gall hefyd fod yn greulon. Mewn tywydd stormus, gall y dyfroedd garw atal cychod rhag hwylio am fisoedd diddiwedd. Mae ei thopoleg yn ei chau allan ymhellach o'r tir mawr, gan fod y bryn mawr ar ei hystlys gogledd-ddwyreiniol yn torri unrhyw olwg neu sŵn o'r byd y tu hwnt i'w glannau i ffwrdd oddi wrth y llond llaw o ffermydd sy'n swatio yno.

Ond mae gan Enlli le annwyl iawn yn ein calonnau, a dyma'r math o her rydyn ni'n ei mwynhau. Felly, pan ofynnwyd inni a allem ddarparu Band Eang Cyflym Iawn a gosodiad 'Rhyngrwyd o Bethau' (RhoB) ar gyfer yr ynys couldn’t say no.

Byddai’r porth rhwydwaith ardal eang hir-amrediad (a adnabyddir yn gryno fel LoRaWaN) a oedd eisoes yn cael ei ddarparu, fel rhan o raglen fwy yr ydym yn ei rhedeg ar draws sir Gwynedd, ddim ond mor ‘ddefnyddiol’ â’r wybodaeth ei hun y ceisiasom ei darparu yw fel peth ‘defnyddiol' i bobl, ond nid oedd yn amlwg i ni yn syth beth allai fod ei angen. Nes i ni gyfarfod yr ynyswyr.

Dysgon ni’n gyflym fod llawer o’r pethau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol ar y tir mawr, fel dŵr yn llifo, trydan, nwy, ac olew, yn adnoddau gwerthfawr ac nid ydynt yn ddi-ben-draw yma. Rhan gyffredin ond hanfodol o fywydau pob dydd yr ynyswyr yw gwirio lefelau’r tanciau dŵr, nwy ac olew, yn ogystal â ffynhonnau a batris. Gall panel solar neu fatri sy'n methu, gollyngiadau neu danc dŵr sy'n gwagio'n gyflym - i gyd fod yn drychinebus.

Daethom i ddeall yn syth hefyd fod gan yr ynyswyr amrywiaeth drawiadol o sgiliau. Fel ffermwyr mewn mannau anghysbell eraill, maent wedi gorfod bod yn fedrus mewn llawer o bethau. Gallant atgyweirio, gosod, dylunio, adeiladu a gosod ystod eang o beiriannau ac offer. Ni chymerodd lawer o amser i weld y gallai dyfeisiau RhoB fod o fudd gwirioneddol ac uniongyrchol ar ôl i ni ddarparu cyswllt band eang cyflym i’r lle hudolus hwn.

Ond roedd gennym gyfyng-gyngor! Mae'r ynys yn enwog am gael ei datgysylltu ac mae hyn yn rhan o’i rhinweddau. Mae ymwelwyr yn gwybod pan fyddant yn cyrraedd y byddant yn ddiogel rhag gorfod cael galwadau, negeseuon testun, e-byst a chyfarfodydd ar-lein - nid oes signal ac nid oes band eang. Roedd Ymddiriedolaeth yr Ynys yn bendant mai dim ond trigolion yr ynys ddylai gael mynediad i'r Rhyngrwyd, ac eto dyma ni'n danfon pont ddiwifr i'r tir mawr er mwyn darparu hyd at 150Mbps o gysylltiadau band eang cyflym iawn i gartrefi'r ynyswyr.

>Ein hymagwedd

Yr her oedd bod angen i’n datrysiad RhoB fod yn annibynnol i’n cyswllt band eang â’r tir mawr. Er y gallai hyn ymddangos fel petai’n mynd yn groes i’r graen a’n greddf, pe bai'r cysylltiad â'r tir mawr yn mynd i lawr, byddai system LoRaWaN draddodiadol sy'n defnyddio The Things Network neu ddatrysiadau ar gwmwl eraill yn methu, gan na fyddai unrhyw le i'r synwyryddion anfon eu data ato. Felly, un o ofynion ein datrysiad ar gyfer Enlli oedd bod angen i hynny allu gweithredu’n barhaus, gan gasglu data o’r dyfeisiau, waeth beth fo statws y cyswllt â’r tir mawr

Ystyriaeth bellach oedd mai ychydig iawn o gyllid oedd ar gael ar gyfer yr elfen hon o'r prosiect. Er gwaethaf y cyfyngiad hwn, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig cael rhywbeth o werth gwirioneddol allan i'r ynyswyr, yn hytrach na 'dangosfwrdd' safonol i'w lawr lwytho o'r we. Roedd yn rhaid i ni fod yn ofalus faint o amser ac adnoddau y gallem eu neilltuo i ddylunio'r system, i brofi synwyryddion a'i defnyddio.

Roedd y rhan fwyaf o'n profiad o LoRaWaN ac RhoB hyd at y pwynt hwn wedi'i gasglu gan ddefnyddio The Things Network a darparwyr cwmwl amrywiol o atebion RhoB, ond ni fyddai'r rhain yn ddigon cydnerth. Felly, i redeg rhywbeth ar yr ynys yn annibynnol o’r cyswllt â'r tir mawr roedd angen i ni ddatblygu dewis arall wedi'i lunio yn bwrpasol.

>Y datrysiad

Wel, roedd yn rhaid iddo fod yn ddatrysiad yn seiliedig ar Raspberry Pi, yn 'doedd? Roedd angen Cyfrifiadur Cymraeg i redeg y cyfan ar system RhoB bwrpasol, a luniwyd yng Nghymru, i'w defnyddio ar Ynys Gymreig!

Y serfiwr/rheolwr rhwydwaith a ddewiswyd oedd ChirpStack ; mae'n ffynhonnell agored, a gall redeg ar Pi. Mae'r uned gryno hon wrth galon rhwydwaith yr ynys. Cyn bo hir bydd hefyd yn gallu anfon data ar draws y ddolen i storfa ddata AWS (Amazon Web Services) ar gyfer dibenion cadw copi wrth gefn a diogelwch.

Yn ogystal â hyn, mae'r Pi yn rhedeg serfiwr rhaglenni gwe sy'n amlyncu data synhwyrydd, yna'n ei brosesu a'i ddelweddu trwy banel gwybodaeth dwyieithog penodol i Enlli. Gall yr ynyswyr gael mynediad at y panel gwybodaeth hwn trwy unrhyw borwr ar eu cyfrifiaduron bwrdd gwaith a ffonau symudol.

Nodwedd dylunio allweddol yw y gall yr ynyswyr eu hunain reoli ychwanegu synwyryddion newydd a rhai newydd eu hunain, a gall ein tîm ddiweddaru a chefnogi'r uned o bell.

Mae'r system eisoes yn cefnogi synwyryddion lefel dŵr ar gyfer tanciau dŵr a ffynhonnau, ac rydym yn bwriadu cyflenwi cwpl o synwyryddion allbwn paneli solar prototeip yn ystod ein hymweliad nesaf. Bydd datganiadau yn y dyfodol yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer synwyryddion blychau nythu, llif dŵr, a lleithder yn ogystal â synwyryddion tywydd eraill.

>Effeithiau

Mewn chwe mis a gyda thîm o dri o bobl (gan dreulio oriau yn gweithio arno y tu hwnt i'n diwrnod gwaith arferol), mae Kodergarten wedi:

  • Cynllunio, adeiladu a defnyddio system RhoB a gynhelir gan PI i'w defnyddio ar Ynys Enlli.
  • Treialu pedwar 'synhwyrydd tanc' gwahanol, ac o'r diwedd dod o hyd i un a oedd yn gweithio!
  • Sefydlu ChirpStack ar y Pi.
  • Dylunio system RhoB nad oedd angen cyswllt â'r tir mawr a rhwydwaith RhoB safonol.
  • li>
  • Wedi creu Model Data sy'n cefnogi gwahanol briodweddau/lleoedd a mathau o synwyryddion.
  • Wedi cyflwyno system y gall yr ynyswyr eu hunain ei rheoli a'i chynyddu.
  • Wedi dylunio ac adeiladu synhwyrydd clamp RhoB DC prototeip ar gyfer monitro gweithgaredd paneli solar o fewn wythnos i'r gofyniad a awgrymwyd.

TMae'r system bellach ar waith, a gobeithiwn y daw i fod yn rhan hanfodol a dibynadwy o wead yr ynys. Mae ganddo'r gallu i drawsnewid rhai rhannau bach ond hanfodol o fywyd yr ynys yn ogystal ag astudio bywyd gwyllt. Mae'n ddatrysiad cadarn, pŵer isel, cost isel, amlieithog ac aml-synhwyrydd y gellir ei ddefnyddio mewn ystod o leoedd anghysbell nad oes ganddynt fynediad at wasanaethau rhwydwaith RhoB safonol.