Amdanom ni

Er mwyn tyfu, mae angen edrych ar bethau'n wahanol

Mae ein henw Kodergarten yn rhannol yn fater o chwarae ar y gair Almaeneg Kindergarten, ymagwedd addysgol yn seiliedig ar chwarae a gweithgareddau ymarferol. Mae'n adlewyrchu ein hymagwedd anffurfiol, ymarferol ein hunain, yn ogystal â'n hethos o ddatrys problemau'n ddeinamig. Rydyn ni'n caru'r hyn rydyn ni'n ei wneud ac rydyn ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n ei wneud yn dda.

Cysylltwch â ni

Ein henw

Beth mae Kodergarten yn ei olygu

"Koder" — does dim angen esboniad. Rydyn ni i gyd yn godwyr hefo'n stamp ein hunain ar lunio cod.

Mae'r gair "garten" yn deillio o'r gair Almaeneg am ardd, cynrychioli sut mae ein hatebion yn helpu i dyfu syniadau, prosesau, sefydliadau ac effeithiau. Rydym yn ymdrechu i ysgrifennu cod da, syml a chyson, wrth greu'r amgylchedd cywir o'i gwmpas fel bod ein datrysiadau'n ffynnu.

Darganfod mwy am ein sgiliau

Sut rydym yn gweithio

Nid yw un maint yn addas i bawb

Mae pob prosiect a chleient yn wahanol. Rydym yn mowldio sut rydym yn gweithio i weddu i bob un o'n prosiectau, o'r ffordd rydyn ni'n cyfathrebu, i sut rydyn ni'n dylunio, amserlennu, codio, profi, cymeradwyo, defnyddio ac adolygu.

Rydym yn mwynhau cyfuno agweddau dynol, busnes a thechnegol prosiect er mwyn tyfu'r canlyniadau gorau.

Tyda ni ddim yn credu bod angen tîm mawr i wneud y gwaith. Mewn gwirionedd, i'r gwrthwyneb, mae tîm llai yn aml yn gwneud y gwaith yn gyflymach ac yn fwy effeithiol. Rydym yn gweithredu gyda strwythur gwastad, hefo tîm o'r maint iawn, ac aelodau o'r tîm sydd â'r setiau iawn o sgiliau.

Yr hyn rydym yn ei gredu

Ein gwerthoedd

Ysgrifennwch god da

Syml, cyson, a gofalus. Rydym yn cymryd balchder yn ansawdd yr hyn rydym yn ei adeiladu.

Deallt y broblem

Gwrandewch yn fwy astud. Ceisiwch wneud synnwyr o'r broblem cyn cyrraedd am ateb. Os yw'n rhy fawr, torrwch hi i lawr.

Cadwch hi'n syml

Nid llwybr byr yw symlrwydd — dyma'r peth anoddaf i'w gyflawni a'r peth mwyaf gwerthfawr y gallwn ei gyflenwi.

Byddwch yn amyneddgar a gweithiwch yn galed

Mae gwaith da yn cymryd amser. Byddwch yn ofalus, byddwch yn gyson, a daliwch ati.

Meithrin talent

Daliwch i ddysgu. Croesewch safbwyntiau newydd. Byddwch yn agored i binsiad o lwc dda.

Cymerwch falchder yn y gwaith

Byddwch yn ddefnyddiol ac yn gydwybodol. Gwerthfawrogwch a gofalwch am ein hamgylchedd. Mwynhewch ei wneud.