O'R CYSINIAD i EGINIAD COD

>Croeso i Kodergarten...

Dychmygwch mai cod yw strwythur cynhenid popeth. Gallwch ei ddefnyddio i ddylunio a thyfu atebion digidol pwrpasol ar gyfer anghenion eich sefydliad neu gymuned.

Rydym yn gwmni datblygu meddalwedd. Rydym yn dylunio, codio ac yn cynnal nifer o atebion arloesol i sectorau penodol. Mae ein gwaith yn cwmpasu trafnidiaeth gyhoeddus ac ysgol, tai cymdeithasol, dadansoddeg lleoliad smart / craff, synwyryddion a data RhoB (Rhyngrwyd o Bethau), symudol a mapio ac mae'n cynnwys arbenigedd mewn Go/Vue a datrysiadau cwmwl sydd wedi'u pensaernïo'n dda.

Rydym yn gweithio’n bennaf gyda sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector ledled Cymru a’r DU ac yn credu y dylem fod yn gwneud pethau da gyda thechnoleg, pethau sydd â’r gallu i wella bywydau ac nid ydi’r pethau hynny’n costio’r ddaear.

Darganfod mwy about us, our work, team, and /cy/news.


<Stories/>

Crefft sŵn - a cryndodau seismig anweledig

Defnyddio synwyryddion ffynhonnell agored cost isel i ddehongli sŵn seismig er mwyn delweddu gweithgarwch dynol mewn lle mewn amser real. Mae Kodergarten yn bwriadu defnyddio'r dechnoleg hon ar eu Patrwm - platfform lleoedd clyfar er mwyn cofnodi, prosesu a rhannu data ar gyfrolau traffig a mathau o gerbydau yn yr ardaloedd a llefydd sy'n amgylchynu gŵyl ddiwylliannol fawr yr haf hwn.read more

Enlli - LLanw a thrai

Mae Enlli, sy’n ynys wedi’i lleoli 1.9 milltir oddi ar arfordir Pen Llŷn yn sir Gymreig Gwynedd, er mor anghysbell ydi hi, wedi meithrin syniadau newydd trwy gydol hanes ac yn parhau i wneud hynny heddiw ac yn ein profiad ni, ar ôl gweithio ar gysylltu’r ynyswyr â Band Eang Cyflym Iawn a Rhyngrwyd o Bethau (RhoB) mae'r ynys ar flaen y gad gryn dipyn o’i chymharu â’r defnydd a wneir o dechnoleg ar y tir mawr.read more

Pam Siop.io - Trwy Lygaid Mam

Ym mis Mawrth 2020, fe wnaeth y cyfnod clo ein taro; Rydw i'n fam sy'n gweithio'n llawn amser ac roedd yn her go iawn, i nifer ohonom, i jyglo gofal plant ychwanegol a chymorth addysg gartref ar gyfer tri phlentyn ifanc ochr yn ochr â'n gwaith llawn amser arferol a rhedeg y cartref. 'Dydi fy ngŵr a finnau ddim cwyno am ddim byd achos ryda' ni'n meddwl ein bod yn lwcus bod gynno ni y gallu i weithio adref a chadw'r cartref yn saff, ond does dim gwadu ei fod yn teimlo fel jygl o ddifri.read more